Rhoi gweledd i chi'ch hun
"Diolch o galon am heddiw, ges i amser gwych yn y sesiwn tynnu lluniau ac roeddet ti'n gwneud i mi deimlo mor gysurus. Mae'r lluniau'n anhygoel. Dw i wrth fy modd efo nhw!"
Sesiynau Tynnu Lluniau Prom ‘Mwynha Dy Hun’ yn Stiwdio Picsel
Ddim ond unwaith mewn oes dach chi’n mynd i’r prom, felly pam ddim mwynhau sesiwn tynnu lluniau proffesiynol i ddal eich steil am byth? Os dach chi’n chwilio am y ffordd berffaith i ddathlu prom, pen-blwydd, sbwylo ffrind, neu ddim ond treatio’ch hun? Dewch draw i Stiwdio Picsel am brofiad bythgofiadwy gyda’r ffotograffydd proffesiynol Rhys Webber.
Gwisgwch i fyny, ymlaciwch, a mwynhewch tra byddwn ni’n tynnu lluniau anhygoel y byddwch chi’n eu caru am byth.
Mae Rhys yn ffotograffydd profiadol iawn sydd wedi tynnu lluniau o fodelau, sêr chwaraeon, actorion, a hyd yn oed breindod – felly byddwch mewn dwylo diogel.
Beth sydd wedi’i gynnwys:
- Sesiwn broffesiynol 1–2 awr: Yn ein stiwdio yn Nghasnewydd (Picsel Photo Studio). Bydd Rhys yn eich rhoi ar eich hwylustod ac yn helpu gyda’r ‘posing’.
- Eich cerddoriaeth chi: Gallwn chwarae eich hoff ganeuon ar Spotify i helpu chi ymlacio.
- Dewch â ffrind: Mae croeso i chi ddod â rhywun efo chi i helpu chi deimlo’n hyderus.
- Golygu Proffesiynol: Dewiswch eich hoff 10 llun, yna dewiswch lefel y golygu (Photoshop) – o edrychiad naturiol i steil cylchgrawn ffasiwn ‘glam’.
- Printiau o ansawdd uchel: Rydyn ni’n cynnig printiau gwych am brisiau da i chi gael cadw’r atgofion ar bapur.
Y Pecyn Lluniau Prom
Cost: £160 (Rydyn ni’n derbyn pob prif gerdyn debyd a chredyd)
Yn y pecyn:
- Sgwrs cyn y sesiwn am y cefndir, gwisgoedd a goleuo.
- Awr o dynnu lluniau gyda Rhys Webber.
- Tua 100 o luniau yn cael eu tynnu yn ystod yr awr.
- Adolygiad o’r holl luniau i ddewis eich hoff 10.
- Golygu proffesiynol (retouching) ar y 10 llun dewisol.
- Lluniau digidol cydraniad uchel (High Res) i chi eu cadw.
- Coffi/dŵr am ddim a cherddoriaeth o’ch dewis.
- Gwallt a cholur: Gallwn ddod o hyd i artistiaid gwallt a cholur proffesiynol am gost ychwanegol.
Archebwch nawr: Defnyddiwch y ffurflen gyswllt neu ffoniwch 01633 674418 (Llun–Gwener, 9–5).